Rydym yn gwmni syrcas cyfoes, theatr a chelf, sefydlwyd yn 2013. Mae’r Cimera yn hybrid rhyfeddol o fyd mytholeg Groegaidd. Fel yr anifail hudol hwn, ‘rydym yn gwmni aml-ochrog sy’n cyfuno artistiaid o sawl cefndir perfformio a pherspectifau dylunio i greu llais artistig pwerus yng ngogledd Cymru.

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. 

Rydym yn cynhyrchu gweithiau gwreiddiol amrywiol megis theatr stryd, cymeriadau stiltiau ar gerdded, teithiau cynyrchiadau syrcas, sioeau tân, ymgysylltu drwy’r celfyddydau a phrosiectau addysgol, gorymdeithiau cymunedol, gwyliau golau, sioeau pyped, a hyfforddiant syrcas a chelfyddydau rhyng-ddisgyblaethol ar gyfer plant ac oedolion.

Mae ein rhwydwaith cysylltiadau, partneriaid ac artistiaid yn ymestyn ar hyd arfordir y Gogledd Ddwyrain, trwy Wynedd, ac o Fôn lawr at Geredigion a thu hwnt.

Rydym wedi creu, dylunio a chynhyrchu gwaith ar gyfer gwyliau, digwyddiadau, lleoliadau a chwmnïau, gan gynnwys Pontio (Bangor), Venue Cymru, Arad Goch, Cwmni’r Fran Wen, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Urdd, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mae partneriaethau gyda sefydliadau celfyddydol ac elusennau eraill yn cynnwys Pontio Bangor, Citrus Arts, NoFit State Circus, Theatr Cymru, CARN, ac Anno’s Africa ym Malawi a Kenya.

Kate Jones

Cyfarwyddwr Artistig

Kate Driver, Artistic Director

Hyfforddodd Kate mewn Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Dylunio Theatr gyda Motley, Theatr Genedlaethol yn Llundain. Mae hi’n un o brif sefydlwyr cwmni Cimera. Mae hi wedi gweithio dros 30 mlynedd fel Dylunydd Theatr, Dramodydd, Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Theatr ar gynyrchiadau proffesiynol a phrosiectau celf cymunedol hyd a lled y Deyrnas Unedig. 

Ysgrifennodd ‘Drudwen’ ac ‘Mi glywais gan Aderyn Bach’ ar gyfer Cimera ac mae hi wedi datblygu cysyniadau, cyd-gynhyrchu a dylunio perfformiadau theatr stryd a gorymdeithiau ar gyfer y cwmni yn cynnwys, ‘Let them eat cake, ‘Mari Llwyd’, ‘Commedia Masquerade’ and ‘Scylla, Charybdis and Poseidon’. 

Mae gwaith diweddar Kate hefyd yn cynnwys Dylunio Theatr ar gyfer cynyrchiadau yn y RCSSD yn cynnwys ‘The Wonderful World of Dissocia’, ‘Blue Stockings’ a ‘Lear’ a chyd- ysgrifennu a dylunio ‘Aphrodite in Flippers’, i gwmni Bold and Saucy Theatre. Rhan o’i gwaith cyfredol hefyd yw gweithio gyda Anno’s Africa Malawi fel mentor sgiliau syrcas a chelf theatr. 

Mae Kate yn hybrid genetig a diwylliannol gyda blas am hiwmor tywyll. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Llundain a chanddi wreiddiau yn Norfolk a Caerfyrddin. Mae hi wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, ac mae hi bellach yn byw ym mynydd-dir Eryri.


Iago Morgan Jones

Perfformiwr

Fel un o’r aelodau sefydlodd gwmni Cimera, mae Iago wedi perfformio; creu cymeriadau a pherfformiadau gyda’r cwmni ers 2013. Yn ddiweddar actiodd ran Ogi a Trystan yn nhaith genedlaethol ‘Drudwen’. Mae ganddo ystod eang o ddoniau perfformio a syrcas ac yn arbenigo fel acrobat; cydbwysedd-acrobatig; sgiliau awyrol a chomedi corfforol. 

Dechreuodd ymddiddori mewn syrcas yn 15 oed gan droi ei hyblygrwydd corfforol naturiol a’i hoffter o chwarae gyda tân i berfformiadau a gwaith creadigol. Cafodd hyfforddiant fel acrobat gyda chwmni Syrcas Polichinello yn Sheffield, teithiodd gyda ‘No Fit State’ gyda sioe ‘Bianco’, a pherfformiodd yn ‘Bodies inUrbanSpaces’ ym Mangor ac Abertawe. Mae ei brofiad actio a pherfformio syrcas hefyd yn cynnwys- ‘Y Crincod’, Llwyfan Gogledd Cymru; ‘Coppelia’; ‘Troi a Throsi’; Y Goeden Annwn’; a ‘Tri’, Syrcas Circus. 

Teithiodd Iago i Malawi gyda Anno’sAfrica yn 2017 i ddysgu sgiliau awyrol i blant Bae Nhkata. Cymraeg yw iaith gyntaf Iago ac mae’n caru garddio a magu hwyaid.


Daisy Williams

Perfformiwr awyrol a Hyfforddwraig

Daisy Williams, Aerialist performer and Instructor

Mae Daisy’n teimlo’n angerddol am gelfyddyd awyrol. Ei phrif ddisgyblaeth yw crefft yr ‘hŵp’ awyrol ond mae hi hefyd wedi hyfforddi gyda’r ‘trapeze’; rhaffau sidan; strapiau a Gwe Spaeneg.  

Dechreuodd Daisy hyfforddi ar y ‘trapeze’ gyda’r cwmni ‘Black and Blue’ yn Lerpwl tra’n astudio i fod yn newyddiadurwraig yn y Brifysgol. Ar ôl gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain hyd nes yn 25 oed, penderfynodd Daisy greu ei stori hi ei hun yn hytrach nag ysgrifennu am fywydau pobl eraill a theithiodd hyd a lled y wlad gyda chwmni syrcas teithiol. 

Dychwelodd i Ogledd Cymru yn 2018 gan ymuno gyda chwmni Syrcas Cimera fel perfformiwr a hyfforddwraig. Mae Daisy hefyd yn berfformiwr a hyfforddwraig llawrydd ac yn gweithio ar brosiectau ymgysylltu cymunedol megis gweithdai llenyddiaeth a lles yng Ngogledd Cymru.


Raine Williams

Rheolwr Datblygu Busnes

Mae gan Raine dros 35 mlynedd o brofiad mewn gweinyddiaeth busnes, cyllido prosiectau ac awdit mewnol. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi gweithio i sawl sefydliad a chymdeithas lleol megis Canolfan Awyr Agored Plas Menai, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio i Brifysgol Bangor fel Gweinyddydd Cyllid ar ddau brosiect. 

Mae Raine wastad wedi ymwneud gyda chelf gymunedol ac wedi bod yn rhan o sawl digwyddiad gan Cimera. Dros y blynyddoedd mae hi wedi cymryd amser o’i gwaith i drafaelio a gweithio mewn amrywiol wyliau yn y D.U. yn cynnwys Glastonbury, Big Green Gathering a’r Northern Green Gathering. Yn fwy diweddar mae hi wedi perfformio yng Ngwyl Rhif 6 a sawl carnifal lleol gyda Bloco Sŵn, band Samba lleol. 

Mae Raine yn ddiweddar wedi dod yn nain ac yn mwynhau drymio, rhwyfo ac mae’n hwylio yn lleol yn gyson. Yn 2017 cafodd ei hanturiaeth hwylio fwyaf erioed yn croesi yr Iwerydd o Bwllheli i Bermuda ac yn ôl mewn trimaran 54’.


Alex Haycock

Arweinydd Gweithdai Syrcas

Mae Alex wedi ei fagu yng nghefn gwlad godidog Gogledd Cymru ac mae wedi bod yn ymwneud gyda Cimera ers yn blentyn. Mae gweithio gyda Cimera wedi ei alluogi i wneud llawer o bethau mae yn ei garu – teithio, perfformio a hyfforddi.  

Teithiodd i Malawi gyda Cimera ac elusen Anno’s Affrica i helpu gyda phrosiect i ddatblygu ac addysgu artistiaid lleol er mwyn creu busnes cynaliadwy i gynhyrchu talentau ifanc lleol. Roedd yn brofiad anhygoel i fachgen ifanc oedd newydd orffen ei lefel ‘A’, profiad oedd yn ffordd wych o ddysgu ac agor ei lygaid i ddiwylliannau newydd.  

Mae hefyd wedi cael cyfleon perfformio ger bron cannoedd o bobl ar draws y wlad mewn gwyliau a gorymdeithiau stryd a charnifalau, yn jyglo tân, cerdded ar stiltiau a llawer iawn mwy.  

Mae’n troi ei law at sawl crefft ond jyglo yw ei ffefryn. Yn ddiweddar mae wedi meistroli y gamp ‘rhaeadr 5 pêl’, ac nid yw’n bwriadu rhoi’r gorau iddi ar hynny.