GORJYS
Pabell fawr, coron, perchennog syrcas a hyrwyddwr harddwch dirgel!
Ymunwch ag Efa wrth iddi blymio i fyd Pier Môrlais i chwilio am atebion, ond yno daw o hyd i rith, celwydd a chystadleuaeth am y goron hardd.
Mae GORJYS yn olwg hwyliog, ffraeth a phwerus ar fyd gwallgof a gwrthgyferbyniol delwedd a barn. Mae’r sioe newydd sbon hon gan Cimera (Drudwen, Lleu) yn ddarn o theatr syrcas gyfoes sy’n cyfuno actio, canu, syrcas, theatr gorfforol, gwisgoedd trawiadol a cherddoriaeth. Perfformiad addas i gynulleidfaoedd o bob oed.
Mae cyfle i chi weld y sioe hudolus hon ym Mharc Gwledig Glynllifon, Caernarfon.
Perfformiadau:
Dydd Gwener 18 Medi am 6pm
Dydd Sadwrn 19 Medi am 1.30pm ac 5pm
Dydd Sul 20 Medi am 5pm
Bydd digwyddiad cymunedol yn ystod y dydd Sul
Rydym yn adrodd straeon mewn ffordd greadigol, gweledol a cherddorol. Bydd y perfformiad yn Gymraeg, gyda sain ddisgrifiad yn Saesneg.
Mynnwch eich tocynnau drwy Eventbrite – dolen isod
Ein Gwaith
Mae ein gwaith yn chwareus, anarchaidd a chomig.
Theatr Syrcas
Rydym yn creu perfformiadau gwreiddiol sy’n plethu syrcas, dylunio a deud stori er budd creu profiad theatraidd gwefreiddiol.
Theatr Stryd
Mae ein cymeriadau a’n perfformiadau stryd yn drawiadol a llawn adloniant.
Tân a Golau
We blend fire, light and acrobatics to make magic after dark.
Awyrol
Ein perfformiadau awyrol trawiadol yn hardd i’w rhyfeddu.
Rydym yn dod a chelf gyfranogol wefreiddiol at galon ein cymunedau.
Mae gennym gyfoeth o brofiad yn creu a chyflwyno prosiectau cymunedol aml-ddisgyblaethol.
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith cymunedol diweddaraf cliciwch ar Prosiectau ac Hyfforddiant.

















































