GORJYS

🎪Pabell fawr, coron, perchennog syrcas a hyrwyddwr harddwch dirgel!

Ymunwch ag Efa wrth iddi blymio i fyd Pier Môrlais i chwilio am atebion, ond yno daw o hyd i rith, celwydd a chystadleuaeth am y goron hardd.

Mae GORJYS yn olwg hwyliog, ffraeth a phwerus ar fyd gwallgof a gwrthgyferbyniol delwedd a barn. Mae’r sioe newydd sbon hon gan Cimera (Drudwen, Lleu) yn ddarn o theatr syrcas gyfoes sy’n cyfuno actio, canu, syrcas, theatr gorfforol, gwisgoedd trawiadol a cherddoriaeth. Perfformiad addas i gynulleidfaoedd o bob oed.

Mae cyfle i chi weld y sioe hudolus hon ym Mharc Gwledig Glynllifon, Caernarfon.

Perfformiadau:

⭐️Dydd Gwener 18 Medi am 6pm

⭐️Dydd Sadwrn 19 Medi am 1.30pm ac 5pm

⭐️Dydd Sul 20 Medi am 5pm

🌟Bydd digwyddiad cymunedol yn ystod y dydd Sul

Rydym yn adrodd straeon mewn ffordd greadigol, gweledol a cherddorol. Bydd y perfformiad yn Gymraeg, gyda sain ddisgrifiad yn Saesneg.

🎟️Mynnwch eich tocynnau drwy Eventbrite – dolen isod


Ein Gwaith

Mae ein gwaith yn chwareus, anarchaidd a chomig. 

Theatr Syrcas 

Rydym yn creu perfformiadau gwreiddiol sy’n plethu syrcas, dylunio a deud stori er budd creu profiad theatraidd gwefreiddiol. 

Picture taken from the production of Drudwen by Cimera. A male performer dangles a female performer by the hand from a scaffolding-like structure, as a ground-based female performer looks up with glee.
A male and a female performer wearing wide-brimmed hats sit back to back in a suitcase, with a Welsh blanket as a backdrop.
Drudwen, foot hang

Theatr Stryd 

Mae ein cymeriadau a’n perfformiadau stryd yn drawiadol a llawn adloniant. 

Chwilotwyr - Daisy
Y Chwilotwyr : The Explorers
Mari-llwyd yng Nhgaernarfon

Tân a Golau 

We blend fire, light and acrobatics  to make magic after dark.

Iago fire show in tunnel
Lauren fire fan
German wheel lightshow

Awyrol 

Ein perfformiadau awyrol trawiadol yn hardd i’w rhyfeddu.

Rope ankle hang
Aerial rig
Tempest - Iago on silks
Iago aerial splits

Rydym yn dod a chelf gyfranogol wefreiddiol at galon ein cymunedau. 

Mae gennym gyfoeth o brofiad yn creu a chyflwyno prosiectau cymunedol aml-ddisgyblaethol. 

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith cymunedol diweddaraf cliciwch ar Prosiectau ac Hyfforddiant.

Two girls stilt walking
Hobby horses
Blod and Gwyd stilt walk
Making props
Y Chwilotwyr at the Llanrwst Eisteddfod

Oriel