Hyfforddiant a Phrosiectau
Prosiectau â ariennir
Gwnaed y prosiectau canlynol yn bosib drwy nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Diolch!
Lleu – Goleuo Gwynedd
Wedi ei arianu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd y prosiect yn rhedeg o Haf 2021 hyd Wanwyn 2023
I gymryd rhan, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Partneriaeth Lleu yw:
Maggie Doherty - Bangor Arts Initiative; Menna Thomas – CARN; Joy Brown - Yr Heliwr, Nefyn; Cimera; Colin Diamond – Bloco Swn, Capoeira Mocambo; Rhys Mwyn; Rachel Rosen; Zoe Munn
Prosiect awyr agored yw Lleu gaiff ei gyd-greu drwy broses gyfranogol gyda chymunedau’r Fenai, Bae Caernarfon a Phen Llŷn. Wedi ei wreiddio yn yr ardaloedd a’i dyfu drwy archwylio hunaniaeth gymunedol a phrofiadau unigol fydd yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth sy’n byw a gweithio yn y rhanbarth.
Arwyr ydy ein man dechrau, pwy ydyn nhw, a sut mae eu storiau wedi dylanwadu ar ein bywydau. Caiff Lleu ei arwain gan gorff o artistiaid lleol fydd yn rhannu adnoddau a phrofiadau i greu cyfleon i oleuo Gwynedd.
Drudwen
Drwy syrcas, theatr gorfforol a cherddoriaeth, cyflwynir stori Drudwen y ddewines a’r efeilliaid mae hi’n canfod yn y goedwig. Nid yw popeth fel yr ymddengus...
Stori dylwyth têg fodern a thywyll yw Drudwen, stori hydolus am drawsffurfio, dewis a chanlyniad. Wedi ei hysgrifennu gan Kate Jones, mae’n ymblethu elfenau awyrol syfrdanol, comedi gorfforol doniol a cherddoriaeth fyw swynol, gyda sgript Gymraeg a Saesneg. Mae Drudwen yn llawn digwydd cyffrous sy’n wledd i’r synhwyrau.
Cyfarwyddwyd gan Gwen Scott. Cyd-gyfarwyddwr, Siwan Llynor. Perfformiwyd gan Iago Morgan Jones, Lauren Bracken, Claire Crook, Sian Owens. Cerddor/Cyfansoddwr, Dan Lawrence.
Cynhyrchwyd Drudwen mewn partneriaeth gyda Pontio, a thrwy gefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Teithiwyd yn 2019 i – Pontio - Bangor, Y Ffwrnes - Llanelli, Riverfront - Casnewydd, Canolfan Mileniwm Cymru - Caerdydd, Venue Cymru - Llandudno, Canolfan Gelf Aberystwyth.
Prosiectau eraill
Anno’s Africa
Ers 2017 rydym wedi bod mewn partneriaeth gydag elusen Celf Addysgiadol Anno’s Affrica yn datblygu eu prosiectau yn Mzuzu, Malawi a Nairobi, Kenya. Mae aelodau cwmni Cimera wedi bod i Mzuzu ddwywaith yn cydweithio gydag artistiaid o Malawi ac ysgolion yn hyfforddi a helpu datblygu ‘Anno’s Circus Malawi’.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i artistiaid syrcas ddod ynghyd i weithio, hyfforddi a chreu gwaith newydd gyda’i gilydd. Cyfleoedd i bobl ifanc ac artistiaid newydd i ddarganfod a datblygu sgiliau newydd drwy weithio gydag ymarferwyr proffesiynol. Cyfleoedd hefyd i wirfoddolwyr ennill profiad a chyfrannu i’w cymunedau.
Rydym yn credu mewn dysgu drwy helpu ein gilydd, annog hunan gyfrifoldeb a pharch.
Rydym yn cynnal hyfforddiant sgiliau syrcas cyson ar gyfer oedolion a Syrcas Ieuenctid yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon.
Ewch i Ein Gwasanaethau am fwy o wybodaeth.